TEITL |
Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru |
DYDDIAD |
21 Awst 2018 |
GAN |
Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon |
Ym mis Mawrth 2014, lansiwyd y Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar y cyd. O dan y trefniadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y GIG. Maent yn ystyried ystod eang o wybodaeth i nodi unrhyw broblemau er mwyn helpu i'w datrys yn effeithiol.
Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad am ganlyniad y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018.
Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith:
· Trefniadau arferol
· Monitro uwch
· Ymyrraeth wedi'i thargedu
· Mesurau arbennig.
O ganlyniad i'r trafodaethau, cytunodd Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y bydd yr holl sefydliadau'n parhau ar eu lefel uwchgyfeirio bresennol fel y'i nodir yn y tabl yn atodiad 1.
Rwyf eisoes wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
O ran y tri sefydliad sydd ar lefel ymyrraeth wedi ei thargedu, cafwyd cynnydd yn ystod y ddeuddeg mis diwethaf, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyrraedd cerrig milltir o ran eu perfformiad. O ran Bwrdd Hywel Dda, y broblem o hyd yw'r broblem cyllid, er y bydd yr adolygiad llinell sylfaen diweddar o gymorth i'r sefydliad.
Cafodd Prif Weithredwr newydd ei benodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a bu newidiadau i'r Tîm Gweithredol. Bu gwella graddol o ran perfformiad, ac rwy'n disgwyl i hynny barhau. Rwy'n cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud ar draws y tri sefydliad, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda nhw.
Rwy'n parhau i ddisgwyl gweld gwelliant ym mhob un o'r sefydliadau hyn, a byddwn yn dal i fonitro eu cynnydd drwy drefniadau atebolrwydd ffurfiol a thrafodaethau â swyddogion.
Atodiad 1
Sefydliad |
Statws Blaenorol |
Statws Presennol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Mesurau arbennig |
Mesurau arbennig |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Ymyrraeth wedi'i thargedu |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth GIG Felindre |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
Trefniadau arferol |
Trefniadau arferol |
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny